Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015
Amser: 09.03 -
10.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/2734
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
Sara Ahmad, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru June Milligan, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Nick Selwyn (Cynghorwr Arbenigol) Huw Vaughan Thomas (Cynghorwr Arbenigol) Dave Thomas (Cynghorwr Arbenigol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies.
2.1 Nodwyd y papurau. Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Dr Peter Higson (Eitem 2.2) yn ystod rhan breifat y cyfarfod.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru; a Sara Ahmad, Economegydd, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, ar ei ymchwiliad i ddiwygiad lles.
3.2 Cytunodd June Milligan i wneud y canlynol:
· Anfon nodyn ynghylch y safleoedd y mae awdurdodau lleol wedi'u rhyddhau ar gyfer datblygu tai;
· Gwneud sylw ar sefyllfa bresennol y cymdeithasau tai yn newid eu polisïau dyraniadau fel nad oes gwaharddiad ar denantiaid sydd â rhent fel ôl-ddyledion yn seiliedig ar ddyledion budd-dal tai;
· Gwneud sylw ar effaith y cap budd-dal is arfaethedig yng Nghymru;
· Dadansoddiad o ardal awdurdodau lleol o dai yr effeithir arnynt (pan fo'r wybodaeth hon ar gael) gan y cap budd-dal is arfaethedig.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Cytunwyd y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn briffio'r Pwyllgor ar ei femorandwm ar Ragnodi Gofal Sylfaenol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mehefin.